Dyddiad yr Adroddiad

08/08/2025

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202502628

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X, gyda chymorth ei Aelod Seneddol, nad oedd wedi cael ymateb i gŵyn a wnaeth i Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ym mis Ionawr 2025.

Canfu’r Ombwdsmon y cafwyd oedi yn yr Ymddiriedolaeth wrth ymateb i gŵyn Mr X, a fyddai wedi achosi rhwystredigaeth iddo. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb yr Ymddiriedolaeth i ymddiheuro i Mr X am yr oedi ac i gynnig taliad gwneud iawn o £100 iddo o fewn 4 wythnos, ac i anelu at gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 12 wythnos. Os na ellir anfon yr ymateb i’r gŵyn o fewn 12 wythnos, rhaid i’r Ymddiriedolaeth  ddiweddaru Mr X yn fisol nes ei fod yn cael ei gyhoeddi.