Dyddiad yr Adroddiad

10/19/2023

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202305260

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi methu ymateb i gŵyn a wnaeth iddynt ym mis Tachwedd 2022.

Canfu’r Ombwdsmon fod yr Ymddiriedolaeth wedi methu ymateb i gŵyn Mrs B ac nad oeddent wedi darparu diweddariadau rheolaidd iddi yn ystod eu hymchwiliad. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs B. Penderfynodd i setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb yr Ymddiriedolaeth i ymddiheuro i Mrs B, darparu ymateb i’w chwyn a chynnig taliad o £150 iddi o fewn 4 wythnos.