Dyddiad yr Adroddiad

01/03/2023

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202206121

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs D am y ffordd y deliodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru â’i chŵyn am y gofal a roddwyd i’w diweddar fam-yng-nghyfraith.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod yr Ymddiriedolaeth wedi methu â diweddaru Mrs D yn rheolaidd ac ystyrlon a heb ymateb i’w chŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs D. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwilio.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb yr Ymddiriedolaeth i ymddiheuro wrth Mrs D, rhoi esboniad iddi am y methiant, cynnig talu iawn o £50 iddi ac ymateb i’w chŵyn o fewn 5 wythnos.