Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a gafodd yn ystod apwyntiad gyda Meddyg Teulu.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Feddygfa wedi ymateb i’w chwyn ond wedi methu mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r pryderon a gododd. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mrs A.
Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Feddygfa gyhoeddi ymateb pellach i gŵyn Mrs A, o fewn 3 wythnos, gan fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd. Cytunodd y Feddygfa i wneud hynny.