Bu i Mr X gwyno bod y Feddygfa wedi methu ag ymateb i’w gŵyn.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y cafwyd oedi sylweddol cyn i’r Feddygfa ymateb i g?yn Mr X. Dywedodd fod hyn wedi peri anghyfleuster a rhwystredigaeth i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Feddygfa gytuno i fynd ati cyn pen tair wythnos i ddarparu i Mr X ymddiheuriad ysgrifenedig ac esboniad o’r rhesymau dros yr oedi, i gynnig iawndal o £75 i gydnabod y ffordd wael y cafodd y gŵyn ei thrin, ac i ddarparu ymateb i’r gŵyn. Cytunodd y Feddygfa i wneud y pethau hyn.