Cwynodd Mr H nad oedd wedi cael ymateb i’w gŵyn ffurfiol dyddiedig 25 Ionawr 2024. Anfonodd Mr H nifer o negeseuon ebost yn gofyn am ddiweddariad ac ymateb i’w gŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mr H wedi aros yn hirach nag y dylai am ymateb ac er iddo fynd ar drywydd diweddariad, nid oedd wedi cael ymateb hyd yn hyn.
Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ar y sail y bydd y Feddygfa, o fewn 20 niwrnod o gyhoeddi’r llythyr penderfyniad, yn:
1. Ymddiheuro i Mr H am yr oedi cyn ymateb i’r gŵyn.
2. Darparu ymateb ysgrifenedig cynhwysfawr i’r gŵyn.
3. Ystyried ad-dalu cost unrhyw gostau presgripsiwn preifat o ganlyniad i unrhyw oedi a allai fod wedi’i osgoi wrth i’r Feddygfa ddelio â’r cais.