Dyddiad yr Adroddiad

04/26/2023

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202207942

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs C nad oedd y Feddygfa wedi ymateb i’r gŵyn a wnaeth ym mis Awst 2022 ac nad oedd wedi darparu copi o recordiad galwadau yr oedd hi wedi gofyn amdano.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi sylweddol gan y Feddygfa cyn ymateb i’r gŵyn a’r cais am y recordiad galwadau. Dywedodd fod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Mrs C. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Feddygfa â chais yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mrs C a rhoi £50 iddi i wneud iawn am fethu ag ymateb i’w chwyn. Hefyd cytunodd y Feddygfa i ymateb i gŵyn Mrs C a rhoi copi o’r recordiad galwadau o fewn 3 wythnos.