Dyddiad yr Adroddiad

08/17/2023

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202303004

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms P nad oedd y Practis wedi ymateb yn ffurfiol i gŵyn a wnaeth ym mis Chwefror 2023.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Practis wedi cwrdd â Ms P i drafod ei chwyn ond nad oedd wedi cyhoeddi ymateb ysgrifenedig. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ychwanegol i Ms P.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd a chafodd gytundeb y Practis i ysgrifennu at Ms P o fewn 2 wythnos i ymddiheuro ac i gyhoeddi ymateb ffurfiol i’r gŵyn.