Dyddiad yr Adroddiad

01/16/2024

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202307628

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X fod Deintyddfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu ag ymateb i’w chŵyn am gael ei dadgofrestru o’r Ddeintyddfa. Cyflwynodd Miss X ei chŵyn ym Medi 2023.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Ddeintyddfa wedi methu ag ymateb i gŵyn Miss X ac nad oeddent wedi ei diweddaru’n briodol yn ystod yr oediad. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss X a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ar gais yr Ombwdsmon, cytunodd y Ddeintyddfa i ymddiheuro ac esbonio’r rhesymau dros yr oedi i Miss X, cynnig £50 iddi i gydnabod yr oedi cyn ymateb i’r gŵyn a’r methiant i ddiweddaru Miss X, a chyflwyno eu hymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.