Dyddiad yr Adroddiad

12/01/2026

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202505764

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs C fod y Practis wedi methu rhoi ymateb i’w chwyn am ei dannedd gosod, nad oedd yn ffitio’n iawn.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Practis wedi ymateb i gŵyn Mrs C. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs C. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Practis wneud y canlynol: ysgrifennu at Mrs C gydag ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi a fu cyn iddo ymateb i’w chwyn ac am y methiant i roi diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon iddi; cynnig talu £50 i Mrs C i gydnabod yr amser a dreuliodd a’r drafferth yr aeth iddi yn gwneud cwyn i’r Ombwdsmon; a chyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn pythefnos. Cytunodd y Practis i wneud hynny.