Dyddiad yr Adroddiad

01/16/2024

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202207320

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Ymchwiliwyd i gŵynion gan Mr A am ei driniaeth gan ei Ddeintyddfa. Roedd y rhain yn cynnwys pa mor briodol oedd penderfynu tynnu dant o ystyried y wybodaeth a oedd ganddynt ar y pryd, a ddylid bod wedi atgyfeirio Mr A at ymgynghorydd yn gynt, ac a oedd y penderfyniad a wnaethpwyd i beidio â thrin Mr A oherwydd ei fod yn glaf risg uchel yn briodol ac yn cyd-fynd â’r canllawiau perthnasol. Ar ôl i’r ymchwiliad ddechrau, cysylltodd Mr A â’r Ombwdsmon i ddweud ei fod wedi mynd yn ôl i’r Ddeintyddfa wedyn i ofyn am driniaeth ond y cafodd ei wrthod am ei fod wedi gwneud cwyn. Felly, defnyddiodd yr Ombwdsmon bwerau ei menter ei hun i ehangu’r ymchwiliad a chynnwys 2 destun cwyno arall. Roedd y rhain yn ystyried a oedd yn rhesymol i’r Ddeintyddfa wrthod trin Mr A oherwydd y gŵyn yr oedd wedi’i hatgyfeirio at yr Ombwdsmon, ac a oedd y Ddeintyddfa, wrth benderfynu gwrthod trin Mr A yn y dyfodol, wedi methu â’i hysbysu’n briodol am eu penderfyniad.

Canfu’r ymchwiliad, er y gellid bod wedi esbonio rhywfaint o’r cyfathrebu ynghylch triniaeth Mr A a’r newidiadau i’w gontractau deintyddol yn well, fod triniaeth ddeintyddol Mr A yn y pen draw yn briodol i’r symptomau a gyflwynwyd ganddo ac yn cyd-fynd â’r canllawiau perthnasol. Felly, ni chadarnhawyd yr elfennau hyn ar ei gŵyn. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad nad oedd y penderfyniad dilynol i wrthod gweld Mr A fel claf ar ôl iddo wneud cwyn, na’r cyfathrebu ag ef ynglŷn â hyn, yn cyd-fynd â safonau trin cwynion perthnasol, a bod hynny’n anghyfiawnder iddo. Felly, cadarnhawyd yr agweddau hyn ar y gŵyn.

Felly, argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Ddeintyddfa ymddiheuro i Mr A am y methiannau a nodwyd a chynnig £500 iddo i gydnabod yr anghyfiawnder a achoswyd iddo. Argymhellodd hefyd y dylent adolygu eu harferion trin cwynion i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r Rheoliadau perthnasol a “Gweithio i Wella”, a gwahodd y Bwrdd Iechyd i gynnal archwiliad o’r cleifion hynny y mae’r Ddeintyddfa wedi’u tynnu oddi ar eu rhestr o gleifion GIG, i sicrhau bod y cleifion hynny wedi cael eu tynnu oddi ar y rhestr yn unol â’r rheoliadau a’r canllawiau perthnasol.