Dyddiad yr Adroddiad

03/21/2023

Achos yn Erbyn

Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202207352

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A nad oedd Meddygfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ymateb i gŵyn, gafodd ei chyflwyno iddo ym mis Ionawr 2022.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Feddygfa wedi ymddiheuro i Mrs A ac wedi rhoi esboniad am yr oedi, nad oedd wedi rhoi ymateb ffurfiol i’w chŵyn.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Feddygfa ac er mwyn datrys cwyn Mrs A cytunodd i roi ymateb ysgrifenedig llawn i’w chŵyn o fewn 20 diwrnod gwaith.