Dyddiad yr Adroddiad

02/09/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Cyfeirnod Achos

202306230

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu, yn ei ymateb i gŵyn ym mis Hydref 2023, mynd i’r afael yn briodol â’r pryderon yr oedd wedi’u codi gydag ef.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi mynd i’r afael yn briodol â phryderon Mr X.

Yn hytrach nag ymchwilio i’r gŵyn, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i fynd i’r afael yn llawn â’r pryderon a fynegwyd gan Mr B o fewn 3 mis.