Dyddiad yr Adroddiad

07/26/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Cyfeirnod Achos

202108330

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod methiant wedi bod yn 2020 a 2021, i ddiagnosio anhwylder iechyd meddwl ei mab a arweiniodd at drallod meddyliol difrifol. O ganlyniad, dywedodd Ms X ei bod yn ofynnol iddi gyflogi therapydd preifat a thalu am hynny ei hun.

Nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod tystiolaeth i awgrymu diffygion yn y broses asesu na diffyg mewnbwn. Fodd bynnag, derbyniwyd methiant i gyfleu’r rhesymau dros ryddhau mab Ms X ym mis Mawrth 2021, a allai fod wedi arwain at therapi wedi’i ariannu. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn.

Gofynnodd, a chael caniatâd, i’r Bwrdd Iechyd ddarparu’r canlynol: ymddiheuriad ffurfiol am y methiannau a dderbyniwyd yn y broses asesu a rhyddhau ym mis Mawrth 2021; taliad amser a thrafferth o £100; tystiolaeth o’r gwersi a ddysgwyd a’r camau a gymerwyd i osgoi problemau tebyg yn y dyfodol; ad-dalu costau triniaeth breifat am £500, o fewn mis.