Dyddiad yr Adroddiad

16/12/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Cyfeirnod Achos

202505297

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr S ar ran ei ferch fod y Bwrdd Iechyd wedi rhyddhau ei ferch yn anghywir o’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed, a chwynodd hefyd am fethiannau o ran sgiliau cyfathrebu’r Bwrdd Iechyd mewn perthynas â’r gŵyn hon. Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu ymateb ffurfiol yn ysgrifenedig i gŵyn Mr S. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr S. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu’r ymateb, o fewn chwe wythnos, ynghyd ag ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi.