Dyddiad yr Adroddiad

05/31/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Cyfeirnod Achos

202105883

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Roedd cwyn Mrs A yn gysylltiedig â diffyg mynediad ei mab (“B”) at therapi lleferydd ac iaith, a gwasanaethau eraill, ers ei atgyfeiriad cyntaf i wasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Tachwedd 2015. Yn benodol, roedd Mrs A yn cwyno bod y Bwrdd Iechyd wedi methu darparu mynediad priodol i’w map at therapi lleferydd ac iaith er gwaethaf 4 atgyfeiriad gwahanol i’r gwasanaeth Lleferydd ac Iaith. Cwynodd hefyd bod y methiant i gynnal asesiadau Lleferydd ac Iaith priodol yn golygu na allai ei mab gael mynediad at wasanaethau pellach, er enghraifft y Tîm Niwroddatblygiadol a’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed, a fyddai hefyd wedi nodi anhwylder sbectrwm awtistiaeth (“ASD”) ar gam cynharach.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu mynediad priodol at therapi lleferydd ac iaith i B ac er bod rhai diffygion cyfyngedig ym mhroses ryddhau y gwasanaeth Lleferydd ac Iaith, nid oedd y rhain yn effeithio’n sylweddol ar ddigonolrwydd darpariaeth B. Canfu’r Ombwdsmon hefyd bod y gwasanaeth Lleferydd ac Iaith wedi ymgysylltu’n briodol â gwasanaethau eraill ac nad oedd tystiolaeth i awgrymu bod diagnosis ASD B wedi’i oedi’n ddiangen. O ganlyniad i hyn, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y cwynion.