Cwynodd Mr C nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ystyried atgyfeiriadau ei berthynas yn ddigonol nac wedi darparu’r gefnogaeth angenrheidiol, a arweiniodd at i’r teulu orfod ceisio gofal iechyd preifat.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd yn mynd i’r afael â chwmpas llawn cwyn Mr C, gan ei fod yn canolbwyntio ar ddau o’r atgyfeiriadau a dderbyniwyd yn unig. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ymateb llawn i gŵyn Mr C o fewn 6 wythnos.