Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w phlentyn, B, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”).
Pan edrychodd yr Ombwdsmon ar y gŵyn, roedd hi’n bryderus bod Ms A wedi dweud nad oedd hi wedi derbyn adroddiad yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i’w anfon ati ym mis Mai 2024.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i nodi’r adroddiad y cyfeiriwyd ato yn yr ymateb, a rhoi tystiolaeth i Ms A ei fod wedi’i rannu â hi ym mis Mai 2024, ac ail-anfon copi ati o fewn 4 wythnos.