Cwynodd Miss A am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w thad, Mr C, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”) cyn ei farwolaeth yn 2022. Roedd amgylchiadau ei farwolaeth yn destun Cwest Crwner, ac roedd Miss A wedi derbyn ymateb ffurfiol gan y Bwrdd Iechyd cyn iddo ddod i ben.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd. Esboniodd y Bwrdd Iechyd ei fod wedi derbyn cwyn gan Miss A ar 6 Hydref 2025. Awgrymodd ei fod yn ymateb i’r pryderon a godwyd gan Miss A. Canfu’r Ombwdsmon fod hyn yn gynnig rhesymol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd, o fewn 6 wythnos, i roi ymateb ffurfiol “Gweithio i Wella” i Miss A i’r pryderon a godwyd ganddi yn ei e-bost diweddar.