Dyddiad yr Adroddiad

19/01/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202507906

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi asesu anghenion iechyd meddwl ei mab, Mr A, yn briodol. Dywedodd fod ei mab wedi cael ei ryddhau o wasanaethau heb gefnogaeth, ac roedd hi’n pryderu am ei les.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod camgymeriadau wedi’u gwneud wrth atgyfeirio a bod hynny wedi achosi oedi cyn cynnig y gefnogaeth yr oedd ei hangen ar Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd roi cymorth i Mr A, ac ysgrifennu ato o fewn mis i ymddiheuro am yr oedi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.