Dyddiad yr Adroddiad

29/01/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202409734

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Miss C am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei thad, Mr A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Yn benodol, ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yn briodol peidio â chynnal sgan pen CT ar Mr A ar ôl iddo gwympo yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar 15 Rhagfyr 2023. Ystyriodd hefyd a oedd gwaith y Tîm Adsefydlu Niwroseiciatrig Arbenigol, a’r camau gweithredu a gymerwyd ganddo, yn briodol ac yn amserol ar ôl i Mr A gael ei atgyfeirio at y tîm hwn ym mis Chwefror 2024.

Er bod polisi’r Bwrdd Iechyd yn datgan y dylid bod wedi cynnal sgan pen CT, canfu’r Ombwdsmon nad oedd peidio â gwneud hynny wedi achosi unrhyw niwed nac anghyfiawnder i Mr A. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod gwaith y Tîm Adsefydlu Niwroseiciatrig Arbenigol, a’r camau gweithredu a gymerwyd ganddo, yn briodol ac yn amserol. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r naill gŵyn na’r llall.