Dyddiad yr Adroddiad

14/03/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202408279

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms C nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cofnodi nac ymateb yn ddigonol i gwynion am ei gofal, ei chymorth a’i thriniaeth.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er gwaethaf yr ymdrechion a wnaed gan Ms C i egluro ei chwyn, nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb a oedd yn rhoi sylw digonol i bob un o’r pwyntiau a godwyd gan Ms C. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cafodd yr Ombwdsmon ddatganiad o gŵyn gan Ms C a’i rhannu â’r Bwrdd Iechyd. Yna, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gydnabod y gŵyn o fewn wythnos ac i ymchwilio ac ymateb i’r gŵyn yn unol â threfn gwynion GIG Cymru (Gweithio i Wella).