Dyddiad yr Adroddiad

02/12/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202404714

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Roedd cwyn Mr A yn canolbwyntio ar y ffordd yr oedd gweithwyr cymdeithasol yn y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol wedi cynnal asesiad meddwl. Roedd Mr A hefyd yn anhapus nad oedd wedi cael ymateb i’r negeseuon ebost roedd wedi’u hanfon ar ôl derbyn ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn. Cyfeiriodd Mr A at y ffaith bod y Bwrdd Iechyd wedi cynnig cyfarfod datrys lleol ond nododd na fyddai’n cael ei recordio.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymateb i ymholiadau Mr A ar ôl y gŵyn ac i roi gwybod iddo a oedd gan y Bwrdd unrhyw beth pellach i’w ychwanegu. Cytunodd hefyd i gadarnhau proses y Bwrdd Iechyd ar gyfer recordio cyfarfodydd datrys lleol a chynnig cyfle iddo wneud ei recordiad ei hun o’r cyfarfod pe bai’n penderfynu derbyn y cynnig o gyfarfod.