Cwynodd Mr A ynglŷn â’r modd yr oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) wedi ymdrin â’i gŵyn, a’i gais am ail farn gan leoliad arall.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd yn glir pam na wnaeth y Bwrdd Iechyd symud ymlaen â chŵyn Mr A ar 5 Tachwedd 2024, ac nad oedd y Bwrdd wedi egluro beth roedd arno ei angen er mwyn symud ymlaen, nac egluro bod y gŵyn wedi cael ei chau. Canfu hefyd fod cynnig o ail farn gan leoliad arall wedi’i wneud yn ysgrifenedig, ond nad oedd wedi cael ei gyflawni. Canfu fod 2 lythyr a anfonwyd at Mr A ym mis Awst 2024 yn anghyson, ac nad oedd unrhyw eglurhad wedi’i gynnig am hyn. Canfu nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi egluro wrth Mr A y byddai’n cael cynnig ail farn gan yr un gwasanaeth i ddechrau. Ac yn olaf, canfu fod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi gwybodaeth anghyson i Mr A ynglŷn â’i hawl i ail farn.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd gysylltu â Mr A, cyn pen 8 wythnos, ac ymddiheuro am beidio â chyfathrebu’n glir ynglŷn â’r hyn roedd arno ei angen er mwyn symud ymlaen â’i gŵyn, neu egluro bod y gŵyn wedi cael ei chau, ymddiheuro am wybodaeth anghyson mewn llythyrau a dderbyniwyd ym mis Awst 2024, ac am beidio ag anfon llythyr Mesur Iechyd Meddwl Rhan 3, ymddiheuro am beidio ag egluro wrth Mr A fod ail farn yn cael ei threfnu ar gyfer yr un lleoliad, ac ymddiheuro am yr wybodaeth anghyson a roddwyd i Mr A ynglŷn â’i hawl i ail farn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i drefnu ail farn mewn lleoliad arall, cyn pen 12 wythnos, fel y cynigiwyd yn y llythyr dyddiedig 28 Chwefror 2025.