Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu â threfnu asesiad anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (“ADHD”) ar ei gyfer a heb gydnabod hyn yn adroddiad ei ymchwiliad.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod Mr A wedi gofyn am asesiad ADHD, ond ni chafodd yr atgyfeiriad angenrheidiol ei wneud. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr A o fewn 1 mis ac esbonio iddo pam na chafodd ei geisiadau am asesiad ADHD eu cynnwys yn ei adroddiad ac am yr oedi wrth drefnu am asesiad.