Dyddiad yr Adroddiad

12/02/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202309282

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Mr A am safon y gofal a ddarparwyd iddo mewn perthynas â diagnosis a rheolaeth o’i anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) ac a oedd hyn yn briodol yn glinigol. Roedd hefyd yn anfodlon â’r materion a godwyd mewn llythyr a dderbyniodd gan seiciatrydd am brinder meddyginiaeth ADHD.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod diffygion yn y ffordd y cafodd gofal Mr A ei reoli gan gynnwys o ran cyfathrebu a dogfennu. Ar ben hynny, nid oedd y broses delio â chwynion mor gadarn ag y gallai fod. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, o ganlyniad i’r methiannau a nodwyd, bod cyfle wedi’i golli i Mr A gael ei weld yn gynt na’r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd, fel rhan o setliad, i ysgrifennu at Mr A i ymddiheuro am y diffygion a nodwyd ac i ad-dalu’r costau a ddaeth i’w ran wrth dalu am feddyginiaeth ADHD yn breifat. O ran y ffordd y deliodd â’r gŵyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i wneud taliad o £150 am yr amser a’r drafferth. Fel rhan o ddysgu gwersi, cytunodd y Bwrdd Iechyd i adolygu pa mor gadarn oedd ei broses gwneud penderfyniadau, i archwilio sampl o achosion lle’r oedd penderfyniad clinigol wedi’i wneud yn flaenorol nad oedd digon o dystiolaeth ar gyfer adolygiad/asesiad o ADHD ac i rannu ei ganfyddiadau, ynghyd â chynllun gweithredu os gwelir bod methiannau, gyda swyddfa’r Ombwdsmon. Yn olaf, gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd roi canllawiau cenedlaethol ar waith i wella profiad cleifion o ofal yn ei wasanaeth iechyd meddwl ac i ddatblygu adnoddau archwilio i helpu i fonitro hyn a’i wneud yn rhan annatod.