Dyddiad yr Adroddiad

16/12/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202505742

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y gofal a gafodd ei wraig yn ystod arhosiad mewn ysbyty ym mis Mawrth 2025. Roedd Mr A hefyd yn anfodlon â’r ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w gŵyn. Roedd wedi mynegi pryderon ychwanegol am brydlondeb yr ymateb, gwallau ffeithiol a’r methiant i fynd i’r afael â’i holl bryderon.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio i bryderon Mr A, nad oedd wedi cael ymateb digonol i’w gŵyn gychwynnol na’r materion a godwyd wedyn. Roedd gweithredoedd y sefydliad wedi achosi anhwylustod i Mr A, ac roedd hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth iddo. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 6 wythnos, i ailystyried cwyn Mr A ac i roi ymateb ysgrifenedig pellach i’r gŵyn iddo, gan fynd i’r afael â’r materion ychwanegol a godwyd gyda’r Bwrdd Iechyd a’r Ombwdsmon.