Dyddiad yr Adroddiad

02/08/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202206899

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs A am y gofal a gafodd ei diweddar dad, Mr B, ar ôl iddo gael ei dderbyn i’r ysbyty. Cwynodd nad oedd y penderfyniad i osod cathetr (tiwb i mewn i’r bledren i ganiatáu i wrin ddraenio’n rhydd) a’i ryddhau gyda hwnnw yn dal yn ei le yn briodol yn glinigol. Cwynodd Mrs A hefyd fod methiant i ymgynghori â’i brawd (Mr C), a oedd ill dau â’r awdurdod i wneud penderfyniadau am iechyd a lles Mr B. Ni chafodd y cwynion eu cadarnhau.

Canfu’r ymchwiliad fod y penderfyniad i osod y cathetr yn glinigol briodol ar sail triniaeth yr oedd Mr B yn ei chael ar gyfer sepsis ac oherwydd canlyniad monitro cydbwysedd hylif. Roedd hefyd angen rhyddhau Mr B gyda’r cathetr yn ei le oherwydd diffyg symudedd Mr B, ei arhosiad hir yn yr ysbyty a’i anhawster i wagio ei bledren.

Canfu’r ymchwiliad hefyd, er nad oedd y clinigwyr wedi ymgynghori â Mrs A a Mr C, ei bod yn briodol ac yn rhesymol bwrw ymlaen â gosod cathetr er lles gorau Mr B. Roedd hyn oherwydd brys y sefyllfa ynglŷn â sepsis, ac oherwydd nad oedd Mr B yn gallu gwagio ei bledren. Roedd Mr B hefyd yn dangos arwyddion o aflonyddwch. Roedd hyn wedi gwella ar ôl gosod cathetr.

Nododd yr Ombwdsmon rai materion gyda’r dogfennau. Mae hi wedi gwahodd y Bwrdd Iechyd i ystyried y materion hynny a chais Mrs A i greu dogfen ganllaw ar ymgynghori ag aelodau o’r teulu sydd â’r awdurdod i wneud penderfyniadau iechyd a lles, os nad oes un eisoes ar waith.