Dyddiad yr Adroddiad

05/12/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202106716

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Miss B am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar dad, Mr C. Yn benodol, roedd yn anhapus â diffyg gweithredu’r meddyg teulu mewn cysylltiad â choesau/traed Mr C o 2017 ymlaen, diffyg cysylltiad y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol â Mr C yn ystod yr un cyfnod, pa un a oedd gan Mr C alluedd mewn cysylltiad â gorchymyn Na Cheisier Dadebru Cardio-anadlol (“DNACPR”) yn ystod ei arhosiad olaf yn yr ysbyty a’r oedi gydag ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn.

Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gwynion Miss B. Canfu ei hymchwiliad bod meddygon teulu Mr C wedi cynnig gofal da iddo o 2017 ymlaen, nad oedd unrhyw ddiffygion yng nghysylltiadau Mr C â Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol y Bwrdd Iechyd yn ystod yr un cyfnod, bod gan Mr C alluedd pan gytunodd i’r gorchymyn DNAPCR, ac er ei bod wedi cymryd 14 mis i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’r gŵyn, ymddiheurodd i Miss B felly ni chymerodd yr Ombwdsmon unrhyw gamau pellach.