Dyddiad yr Adroddiad

03/03/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202206010

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr a Mrs J wrth yr Ombwdsmon fod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu cynnal ymchwiliad annibynnol i ofal eu mab. Dywedodd Mr a Mrs J hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu cynnal dulliau cyfathrebu o ran diweddariadau a chanlyniadau adolygiadau.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd yn gymesur ymchwilio i fethiant i gynnal dulliau cyfathrebu gan mai unwaith y digwyddodd hyn, gyda dulliau cyfathrebu dilynol yn cael eu cynnal yn ddiweddarach. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi gwybod i Mr a Mrs J ar 3 achlysur eu bod yn cynnal adolygiad o ofal eu mab, ond nad oedd wedi cael ei gwblhau o hyd.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr a Mrs J am yr oedi ac i gwblhau adolygiad o ofal eu mab am y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Medi 2022 o fewn 3 mis.