Dyddiad yr Adroddiad

01/05/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202302046

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A ei fod yn anhapus ag adolygiad Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (“y Bwrdd Iechyd”) i ofal ei fab. Dywedodd Mr A hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi’r diagnosis anghywir i’w fab yn 2009.

Canfu’r Ombwdsmon fod gormod o amser wedi mynd heibio ers y diagnosis anghywir yn 2009 i’w ystyried. Fodd bynnag, canfu hefyd fod adolygiad y Bwrdd Iechyd o ofal ei fab yn cynnwys camgymeriad o ran dyddiad digwyddiad. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ar gais gan yr Ombwdsmon, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr A o fewn 20 diwrnod gwaith am y camgymeriad a wnaethpwyd wrth adolygu gofal ei fab a chynnig talu £250 iddo i gydnabod yr amser a’r drafferth i Mr A o ddilyn ei gŵyn drwy’r Ombwdsmon ar ddau wahanol achlysur.