Dyddiad yr Adroddiad

05/16/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202200276

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms A ynglŷn â safon y driniaeth a ddarparwyd iddi gan Dîm Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”). Yn benodol, dywedodd Ms A bod y Bwrdd Iechyd wedi methu:

• Darparu apwyntiadau cartref rheolaidd ar gyfer pigiadau depo (ar gyfer rhoi cyffuriau gwrthseicotig sy’n cael eu rhyddhau’n araf) ar ôl mis Mai 2021.

• Darparu cymorth a monitro pan fu’n rhaid iddi roi’r gorau i gymryd ei meddyginiaeth lithiwm reolaidd (cyffur ar gyfer trin anhwylderau hwyliau) ym mis Rhagfyr 2021.

• Nodi a gweithredu ar faterion a godwyd mewn gwiriadau iechyd corfforol.
Canfu’r Ombwdsmon y bu rhai diffygion yn y gofal a ddarparwyd i Ms A.

Roedd ei chynllun gofal yn nodi’n glir ymweliadau cartref ar gyfer pigiadau, ac nid oedd y rhain bob amser yn cael eu trefnu ymlaen llaw ac weithiau nid oeddent yn cael eu cynnal o gwbl. Nododd hefyd nad oedd y cymorth a’r monitro a ddarparwyd i Ms A pan gafodd ei chynghori i roi’r gorau i gymryd lithiwm yn ddigonol, ac ni chafodd iechyd meddwl Ms A ei fonitro. Cadarnhawyd y ddwy agwedd hyn o’r gŵyn.

Ni nododd yr Ombwdsmon unrhyw fethiannau mewn cysylltiad â’r gwiriadau iechyd corfforol ac ni chadarnhaodd yr agwedd hon o’r gŵyn.
Nododd yr Ombwdsmon hefyd bod rhai cofnodion clinigol arwyddocaol wedi’u gwneud yn y cofnodion a ysgrifennwyd â llaw ac nad oeddent wedi’u cofnodi ar y system electronig CMHT. Felly, nid oedd penderfyniadau a newidiadau ag arwyddocâd clinigol ar gael i bob clinigwr a oedd yn gysylltiedig â gofal y claf.

Noder: Mae crynodebau’n cael eu paratoi ar gyfer yr holl adroddiadau a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon. Gellir gosod y crynodeb hwn ar wefan yr Ombwdsmon a gallai gael ei gynnwys mewn cyhoeddiadau a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon a/neu mewn cyfryngau eraill. Os hoffech drafod y defnydd o’r crynodeb hwn, cysylltwch â swyddfa’r Ombwdsmon.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd (o fewn 1 mis) ymddiheuro’n ysgrifenedig i Ms A am y diffygion a nodwyd yn ei gofal.
Argymhellodd hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd (o fewn 3 mis):

• Sicrhau bod holl gofnodion perthnasol clinig CMHT a chyngor a phenderfyniadau rhagnodi gael eu cynnwys yng nghofnodion electronig cleifion.

• Adolygu’r cyfrifoldebau unigol, a nodir yn y Protocol Rhagnodi a Monitro Lithiwm, rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd er mwyn sicrhau bod y rhain yn cael eu cyflawni. Dylai hyn gynnwys sut y dylid cyfathrebu ynghylch unrhyw newid i feddyginiaeth rhwng gofal eilaidd a sylfaenol.