Dyddiad yr Adroddiad

02/10/2023

Achos yn Erbyn

Deintyddfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202206685

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A fod Deintyddfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag ymateb i’w chŵyn yn unol â chytundeb a gyrhaeddodd yn flaenorol â Swyddfa’r Ombwdsmon (Cyf: 202204027).

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Ddeintyddfa ac fe gytunodd i ymddiheuro’n llawn wrth Mrs A am fethu ag ymateb i’w chŵyn a methu â chwrdd â therfyn amser yr Ombwdsmon, talu iawndal o £50 i Mrs A ac ymateb i’w chŵyn o fewn chwe wythnos.

Derbyniodd yr Ombwdsmon y camau uchod yn lle cyhoeddi Adroddiad Arbennig.