Dyddiad yr Adroddiad

01/11/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202206578

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr L, er bod yr Ombwdsmon wedi cyfeirio ei gŵyn at y Cyngor ym mis Hydref 2022, ei fod yn dal i aros am ymateb.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â gweithredu’n unol â’i weithdrefn gwyno statudol a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr L.

Yn lle ymchwilio, gofynnodd yr Ombwdsmon am gytundeb y Cyngor i ymchwilio’n llawn i’r pryderon a oedd wedi cael eu cyfeirio atynt ym mis Hydref 2022, a rhoi ymateb ysgrifenedig iddo o fewn 30 diwrnod gwaith.