Cwynodd Mrs C fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu trefnu cyfarfod wyneb yn wyneb ynghylch y driniaeth a’r gofal a roddwyd i’r diweddar fam.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs C wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd 7 mis yn ôl ac nad oedd wedi cael ymateb ffurfiol i’r gŵyn o hyd. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi gadael llawer o gwestiynau heb eu hateb i Mrs C a phenderfynodd ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, o fewn 4 wythnos, ymddiheuro am yr oedi a chyhoeddi ymateb i gŵyn Mrs C gan fod cyfarfod eisoes wedi’i gynnal. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.