Cwynodd Mr A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi mynd i’r afael â’i holl bryderon yn ei ymateb i’r gŵyn.
Yn yr asesiad, canfuwyd nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn mynd i’r afael â holl bryderon Mr A.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 6 wythnos i’r llythyr penderfyniad, i ddarparu ymateb pellach i Mr A a oedd yn mynd i’r afael â phob un o’r pryderon oedd heb eu datrys.