Cwynodd Mrs X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Mawrth 2025.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r gŵyn a dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu’r ymateb terfynol i’r gŵyn o fewn 7 wythnos, a fydd yn cynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi, cynnig iawndal ariannol o £100 i gydnabod yr oedi a’r manylion perthnasol i drefnu cyfarfod ar ôl ymateb. Yn dilyn y cyfarfod, bydd y Bwrdd Iechyd hefyd yn darparu crynodeb o’r drafodaeth o fewn pythefnos.