Dyddiad yr Adroddiad

30/07/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202502851

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X ynglŷn â’r modd y gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymdrin â’r gŵyn a gyflwynodd iddo ym mis Hydref 2024 ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar dad.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi oedi cyn ymateb i gŵyn Miss X a bod hynny wedi achosi rhwystredigaeth iddi. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro ac egluro’r rhesymau dros yr oedi, cynnig iawndal o £150, a chyflwyno’r ymateb i’r gŵyn cyn pen 8 wythnos. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn.