Cwynodd Ms X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb i’r gŵyn a anfonodd ato ym mis Mai 2024.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi bod yn diweddaru Ms X, ond bod rhai o’r diweddariadau wedi cael eu cymell ganddi hi, a bod oedi afresymol wedi bod cyn ymateb i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms X a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro ac egluro’r rhesymau dros yr oedi, cynnig iawndal o £150, a darparu’r ymateb i’r gŵyn cyn pen 6 wythnos. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn.