Dyddiad yr Adroddiad

30/07/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202501537

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr G nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb i gŵyn a gyflwynodd ym mis Mehefin 2024, yn ymwneud â’r gofal a’r driniaeth a gafodd ei ddiweddar fam. Canfu’r Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’r gŵyn. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr G. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, cyn pen 30 diwrnod gwaith, gyflwyno ei ymateb i’r gŵyn. Bydd yr ymateb yn cynnwys ymddiheuriad a rheswm dros yr oedi. Dylai hefyd gynnig iawndal o £150. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn.