Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu â monitro ei chyflwr offthalmig yn rheolaidd. Cwynodd Mrs X hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w llythyr at yr Ymgynghorydd, ac roedd o’r farn bod yr ymatebion dilynol i’w e-bost yn annigonol.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i ohebiaeth Mrs X nac ymchwilio’n ffurfiol i’w phryderon. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu, o fewn 3 wythnos, at Mrs X gydag ymddiheuriad ac esboniad am yr esgeulustod o beidio â chofnodi ei phryderon fel cwyn ffurfiol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gysylltu â Mrs X i sefydlu cwmpas ei chwyn a chynnal ymchwiliad i’w phryderon o dan y weithdrefn PTR.