Cwynodd Mr A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb i’r gŵyn bellach a gyflwynwyd ganddo ym mis Ebrill 2024.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y bu oedi gan y Bwrdd Iechyd i roi ymateb pellach i gŵyn Mr A. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr A, cynnig iawndal iddo o £100 mewn cydnabyddiaeth o’r oedi, a rhoi ymateb i’w gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.