Dyddiad yr Adroddiad

02/12/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202308083

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms R fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu darparu gofal a thriniaeth iechyd meddwl digonol iddi.

Canfu’r Ombwdsmon fod Ms R wedi gwneud cwyn i’r Bwrdd Iechyd ym mis Hydref 2023, ond nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb iddi eto. Yn ogystal, nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi diweddaru Ms R yn ystod ei ymchwiliad, a dim ond pan aeth AS Ms R ar drywydd y wybodaeth ddiweddaraf y cafwyd hi. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms R a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms R am yr oedi ac am fethu â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi, esbonio’r rhesymau dros yr oedi, cynnig talu iawndal i Ms R o £50 ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.