Dyddiad yr Adroddiad

02/29/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202307745

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Roedd Mr B yn poeni bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi diagnosis anghywir yn dilyn problemau a gafodd gyda’i lygad. Cwynodd Mr B nad oedd Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn a wnaeth ym mis Rhagfyr 2022.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y Bwrdd Iechyd wedi dechrau ymchwiliad i bryderon Mr B a nododd fod y farn Offthalmoleg yr oedd disgwyl i’r Bwrdd Iechyd ei chael ar y gweill yn fuan. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y Bwrdd Iechyd felly’n gallu ymateb i’r gŵyn.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr B a rhoi ymateb i’w gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith.