Dyddiad yr Adroddiad

01/09/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202207083

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs A fod ei gŵr Mr A wedi cael ei ryddhau o’r ysbyty ar 8 Ebrill 2022 yn anniogel gan ei fod wedi gorfod dychwelyd y diwrnod wedyn, ac na ddylai fod wedi cael ei ryddhau’n hwyr gyda’r nos. Dywedodd fod y penderfyniad i ryddhau ei gŵr pan oedd COVID-19 arno wedi peri risg i’r ddau ohonynt. Yn olaf, dywedodd na chafodd ymateb cadarn gan y Bwrdd Iechyd i’w chŵyn.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon nad yw prawf COVID-19 positif yn golygu bod angen i glaf aros yn yr ysbyty, ac o ystyried nad oedd gan Mr A ddim symptomau, na ellid cyfiawnhau ei gadw yn yr ysbyty i gael triniaeth bellach. Ar ben hynny, roedd ar Mr A eisiau mynd adref a chael ei drin fel claf allanol. O safbwynt cadw cofnodion, nododd yr Ombwdsmon nad oedd cofnod o unrhyw drafodaeth â Mrs A am hyn, ond roedd y Bwrdd Iechyd eisoes wedi cydnabod y methiant hwn.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon ei bod yn briodol rhyddhau Mr A gan ei fod yn glinigol iach ac yn feddygol ffit i gael ei ryddhau ar 8 Ebrill. Roedd yr Ombwdsmon yn gresynu wrth yr oediad cyn anfon Mr A adref, ond roedd Mrs A wedi cael gwybod am y sefyllfa a nododd yr Ombwdsmon fod materion sy’n ymwneud â’r gwasanaeth ambiwlans y tu hwnt i reolaeth y Bwrdd Iechyd. Ni chadarnhawyd y rhan hon o gŵyn Mrs A. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod ymateb y Bwrdd Iechyd yn rhesymol ac yn briodol ac eto ni chadarnhawyd cwyn Mrs A.