Dyddiad yr Adroddiad

10/24/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202305011

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss S nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi darparu gwybodaeth gywir am feddyginiaeth a oedd yn cynnwys ei sgil-effeithiau. Cwynodd ymhellach bod y Bwrdd Iechyd wedi cyfleu pryderon amdani i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac ni wnaethant ymateb iddi yn unol â’u gweithdrefn gwyno statudol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu gweithredu yn unol â’u gweithdrefn gwyno statudol a chyhoeddi diweddariadau ystyrlon i Miss S. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss S.

Penderfynodd i setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymddiheuriad ac esboniad i Miss A am yr oedi a chyhoeddi ymateb i’w chwyn o fewn 6 wythnos.