Dyddiad yr Adroddiad

10/02/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202304694

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Dr L, er iddo godi pryderon gyda’r Bwrdd Iechyd ym mis Medi 2022, nid oedd wedi cyhoeddi eu hymateb i’w gŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi methu dilyn eu gweithdrefn gwyno statudol ei hun ac y bu oedi sylweddol cyn cyhoeddi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Dr L. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymddiheuriad i Dr L am yr oedi, ymateb i’r gŵyn, taliad ex-gratia o £250 i gydnabod yr oedi a brofwyd. Cytunodd i gwblhau’r camau gweithredu hyn o fewn 6 wythnos.