Dyddiad yr Adroddiad

09/08/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202302523

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd yn dilyn diagnosis o diwmor ar yr ymennydd. Cwynodd Mr A fod oedi wedi bod cyn cael diagnosis ac o ran atgyfeirio a rheolaeth ar ôl sgan cychwynnol yn 2019 ac roedd yn anfodlon ynghylch y ffaith nad oedd y Bwrdd Iechyd yn mynd i gynnig llawdriniaeth, er gwaethaf darparu tystiolaeth bod y tiwmor yn addas ar gyfer ei dynnu. Nid oedd Mr A wedi cael ymateb i’r gŵyn a wnaeth i’r Bwrdd Iechyd ym mis Mai 2022.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod peth cynnydd wedi bod o ran yr ymchwiliad i’r gŵyn ac y darparwyd diweddariadau yn rheolaidd, ni chyhoeddwyd ymateb ffurfiol i’r gŵyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, cyn pen ugain diwrnod gwaith, yn darparu ymateb i’w gŵyn i Mr A ynghyd ag ymddiheuriad am yr oedi a fu cyn darparu ei ymateb.