Dyddiad yr Adroddiad

09/27/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202304285

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms S fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ymateb i gwynion a gyflwynodd ym mis Medi 2022 a mis Chwefror 2023.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod ar ran y Bwrdd Iechyd cyn ymateb, a bod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Mrs S. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Roedd yr Ombwdsmon wedi ceisio ac wedi cael cytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs S ac i gyhoeddi ymateb i’w chwyn cyn pen wythnos.