Dyddiad yr Adroddiad

08/08/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202302942

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms E fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ymateb i gŵyn a gyflwynodd ym mis Awst 2022.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi sylweddol cyn i’r Bwrdd Iechyd gwblhau ei ymchwiliad. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Ms E.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.